Cartref / Newyddion / Proffil y Digwyddiad: Ffilmio Dr Who 2022

Proffil y Digwyddiad: Ffilmio Dr Who 2022

Ebr 15, 2025

Dyma grynodeb o ffilmio Doctor Who a gynhaliwyd ar Gampws y Bae yn ôl yn 2022. Eisteddom gyda Deanna Bowen (Swyddog Cymorth Digwyddiadau yn y tîm ar y pryd), i gael cipolwg ar ei phrofiad wrth gefnogi’r criw ffilmio. Meddai Deanna mai hwn yw un o’r cyfleoedd mwyaf a gafodd tra’n gweithio i’r Brifysgol ac mae’n edrych ymlaen at weld golygfeydd a ffilmiwyd ar y campws yn y bennod “Dot and Bubble” ar 31 Mai 2024.

“Mae wedi bod yn bleser helpu’r criw cynhyrchu a’r rhanddeiliaid ym Mhrifysgol Abertawe gyda ffilmio ar ein Campws hardd y Bae. Dechreuodd y broses fisoedd yn ôl ond mae wedi bod yn werth chweil gweld popeth yn dod at ei gilydd. Rydym wrth ein boddau bod y criw wedi dewis Campws y Bae am ei arddull fodern ac unffurfiaeth yr adeiladau, lle gellid archebu sawl ardal i’r criw ei defnyddio ar gyfer eu seilwaith eang.”

Sut daeth y prosiect at sylw’r Gwasanaethau Digwyddiadau yn y lle cyntaf?”
Dechreuodd y cyfan pan ddechreuodd Rheolwr Lleoliad y criw weithio ar ffilmio blaenorol ar Gampws y Bae yn 2017. Ar ôl ymweld ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd y criw eisoes yn ymwybodol o botensial y safle a’r mannau nad oedd wedi cael eu defnyddio eisoes. Cysylltwyd â’r Gwasanaethau Digwyddiadau trwy’r tîm Marchnata Gwasanaethau Masnachol, ac estynnwyd croeso mawr iddynt!

Ar ôl derbyn cais y criw i gerdded o gwmpas, cafwyd dwy awr o daith gerdded wyneb yn wyneb gyda’n tîm, y Rheolwr Lleoliad ac un o’r Cyfarwyddwyr Celf. Pan edrychodd y criw am y tro cyntaf o gwmpas y campws, fe wnaethon ni dreulio amser yn culhau yn benodol pa fannau yr hoffent gael ail olwg arnynt, ond gyda mwy o staff. Yn yr achos hwn, ac yn ffodus iawn, cawsom dywydd sych – mae pawb yn gwybod bod gan Gampws y Bae ei hinsawdd ei hun!

Yn dilyn hyn, cadarnhaodd y criw y mannau yr oeddent am ystyried eu defnyddio i ffilmio. Roedd hyn yn ein galluogi i ddechrau sgyrsiau mewnol yn y Brifysgol. Gallai ein Swyddog Cymorth Digwyddiadau ymroddedig Deanna wedyn wahodd rhanddeiliaid gwahanol i fod yn rhan o’r digwyddiad. Roedd hyn yn cynnwys y Coleg sy’n endid ar wahân, ac roedd hyn yn angenrheidiol, gan fod angen mwy nag un rhanddeiliad oherwydd y defnydd o sawl lleoliad ar y campws.

Ar ôl cyfathrebu â rhanddeiliaid amrywiol, daeth tîm y Celfyddydau yn ôl i Gampws y Bae cyn Wythnos Groeso’r Brifysgol ym mis Medi 2022, i ddechrau cynllunio. Roedd hyn yn cynnwys cymryd mesuriadau a chael syniadau bras o’r hyn y byddai angen iddynt ddod ag ef i’r campws i orchuddio’r propiau. Yr holl elfennau hanfodol cyn i’r ffilmio ddechrau’n swyddogol!”

Beth sy’n digwydd yn ystod taith gerdded o gwmpas y safle?

“Cyn cychwyn digwyddiad, mae taith gerdded o gwmpas yn cael ei threfnu. Mae teithiau cerdded yn rhoi cyfle i bawb sy’n cymryd rhan ymgyfarwyddo â lleoliad y campws a chadarnhau’r mannau y maen nhw am eu defnyddio. Y cam i ymwelwyr cyntaf yw trefnu parcio, ond gall ein tîm eu bwcio ymlaen llaw os yw’n amser prysur, sy’n gwneud bywyd ychydig yn haws weithiau! Unwaith y bydd yr ymwelwyr wedi parcio ac yn barod i fynd, mae aelod o’r tîm Gwasanaethau Digwyddiadau yn cwrdd â nhw i wirio a ydyn nhw wedi cyrraedd ac i fynd trwy’r cynllun. Mae’r tîm Diogelwch yn cael eu hysbysu am ddyfodiad y criw sydd ar ddod ac yn gwybod beth i’w ddisgwyl pan fydd y criw ar y campws. Yn yr un modd, mae rhanddeiliaid eraill yn cael eu hysbysu sy’n sicrhau bod pob agwedd ar yr ymweliad yn gweithredu’n llyfn, o’r dechrau i’r diwedd.

Ar gyfer y prosiect ffilmio hwn, cyfarfu Deanna â’r criw yn y Neuadd Fawr. Mae pobl yn cael map o’r campws wrth gyrraedd os oes angen fel y gallant ddangos i ni ble maen nhw eisiau mynd a’r llwybr yr hoffent ei gymryd ar eu ffordd o gwmpas. Yr hyn rydyn ni’n ei ddarganfod fel arfer yw bod criwiau ffilmio yn meddwl am feysydd penodol, yn enwedig os ydynt wedi gwneud eu hymchwil o flaen llaw ac wedi edrych ar ein mannau gwych ar-lein! Ar y llaw arall, mae rhai pobl wedi ymweld o’r blaen ac felly efallai y byddant yn rhoi manylebau yn seiliedig ar yr hyn maen nhw’n chwilio amdano, yna gall ein tîm argymell yn seiliedig ar eu gofynion nhw.

Mae cannoedd o luniau yn cael eu tynnu ar deithiau cerdded, yn enwedig lluniau o’r mannau mwy a all fod yn anodd eu mesur heb eu gweld yn bersonol – mwy o reswm pam mae teithiau cerdded yn fudd mor bwysig wrth i’r broses o gynllunio digwyddiad! Mae’n wych rhoi cyfle i ymwelwyr adael â banc o luniau i edrych arnynt a ddod yn fwy cyfarwydd â’r ardaloedd ar y campws a darganfod beth allai weithio orau iddyn nhw, yn enwedig wrth ffilmio lleoliadau.”

Beth mae’r criw yn ei feddwl am Gampws y Bae?

“Pan ofynnon ni i’r criw beth oedd yn eu denu i Gampws y Bae, roeddem yn falch o glywed eu gwerthfawrogiad am steil modern y campws. Roedd y criw wedi’u diddori gan unffurfiaeth yr adeiladau a’r bwâu yn y Coleg, sy’n llawn gwyrddni ac yn rhoi naws naturiol. Pwynt arall a amlygwyd gan y criw oedd y gwahanol fannau a oedd ar gael i’w bwcio. Roedd hyn yn galluogi’r criw i wasgaru eu seilwaith ar draws y campws yn hawdd. Yn ogystal, gyda darn preifat o draeth y tu allan i’r Bae a dim byd i rwystro’r olygfa hyfyrd, roedd y lleoliad ynysig a’i agosrwydd at Stiwdios y Bae yn ei wneud yn lleoliad arbennig.”

Yn ystod Ffilmio

“Gyda chriwiau ffilm ar y campws, mae llawer o bobl yn chwarae rhan yn sicrhau bod popeth yn mynd yn iawn, felly rydyn ni’n gwneud ein gorau i ofalu am y campws gymaint ag y gallwn o’n safbwynt ni. Mae hyn yn cynnwys cydlynu y tîm Diogelwch a rhanddeiliaid eraill a gwneud amser i gynnal gwiriadau rheolaidd, i fynd i’r afael ag unrhyw ymholiadau neu bryderon. Mae ffocws cryf ar gyfathrebu a hwyluso gan mai ni yw’r prif gyswllt staff o’r ochr ffilmio. Weithiau, fe welwch ein bod ni fan hyn, fan draw ac ym mhob man arall! Rydyn ni’n hoffi rhoi gwybod i bawb ein bod ar gael wrth i ni gadw pethau’n rhedeg yn esmwyth i sicrhau nad oes aflonyddwch na difrod a bod popeth yn cael ei adael yn lân ac yn daclus.”

Er bod prosiectau mawr fel hyn yn anodd eu cydlynu, gyda chaniatâd gofynnol gan bobl sy’n gofalu am rai ardaloedd, ac yn enwedig o’u cymharu â mannau addysgu canolog lle gallwn wirio a yw’r gofod yn rhydd. Os yw’n addas, ffwrdd â ni, maen nhw’n darparu cyfleoedd gwych. Rydyn ni’n dysgu llawer gyda’n traed ar y ddaear ac ar yr un pryd yn sicrhau bod pawb yn teimlo’n gyfforddus gyda ble maen nhw ac at bwy i droi am bethau penodol ac felly’n ennill profiad. O ganlyniad, rydym yn cwrdd â llawer o bobl hyfryd – llawer ohonynt yn dychwelyd i’r campws! Beth allai fod yn well na hynny?”

Archebwch eich digwyddiad gyda ni

Os ydych chi’n ystyried Prifysgol Abertawe fel lleoliad ffilmio, neu os oes gennych ddiddordeb mewn archebu un o’n mannau ar gyfer cyfarfod, digwyddiad neu gynhadledd, cysylltwch â’n tîm Gwasanaethau Digwyddiadau profiadol heddiw.