Wrth i fis Ebrill gyrraedd, mae Cynhadledd Flynyddol 2024 yr EUA yn argoeli bod yn un llawn cyffro, arloesi a newid, gan gynnig sesiynau llawn ardderchog.

Mae arferion asesu gwerth ac effaith gwaith academaidd unigolyn wedi bod yn unochrog tuag at allbwn ymchwil, megis sgorau dyfyniadau ers amser maith. Yn ei dro, mae cynllunio a llwybr #gyrfaoedd academaidd wedi symud yn fwyfwy tuag at fathau penodol o gyflawniadau ymchwil, ar draul tasgau sydd yr un mor deilwng, megis addysgu neu allgymorth cymdeithasol.
Mae’r blynyddoedd diweddar wedi dod â chynnydd tuag at asesu mwy cytbwys a thryloyw, er enghraifft drwy Coalition for Advancing Research Assessment (#CoARA) a mwy o sylw tuag at wobrau a chydnabyddiaeth o addysgu ar lefelau sefydliadol a chenedlaethol.
Bydd y drafodaeth panel #EUA2024AnnualConf yn ystyried datblygiadau o’r fath ac yn myfyrio ynghylch pa gamau pellach y mae eu hangen i sicrhau bod llwybrau gyrfa academaidd yn adlewyrchu’r ystod lawn o ddoniau, cyflawniadau a chyfraniadau academyddion unigol.

Nid yw uniondeb mewn addysg yn bwnc newydd. I’r gwrthwyneb, mae #moeseg mewn #addysg yn dal i fod yn hanfodol i fyfyrwyr – sy’n ddinasyddion gweithgar, yn ogystal ag ysbrydoli academyddion a gweithwyr proffesiynol a phrifysgolion – sy’n meddu ar le hanfodol mewn #gwyddoniaeth, dysgu a chymdeithas. Wedi dweud hynny, mae’r heriau’n newid.
Bydd yr ail sesiwn lawn hon o #EUA2024AnnualConf yn gofyn sut gall prifysgolion sicrhau uniondeb go iawn mewn #dysgu ac #addysgu, gan fynd y tu hwnt i ddatganiadau gwerth a modelau rôl unigol. Bydd siaradwyr yn trafod heriau sy’n dod i’r amlwg a rhai newydd er mwyn cyflawni hyn gan fyfyrio ar sut gall diwylliant o uniondeb gyfrannu at feithrin rhyddid academaidd, ymreolaeth a chydweithio, yn ogystal â threchu camymddygiad a thwyll.

Mae’r penderfyniadau y mae arweinwyr prifysgol yn eu gwneud yn adlewyrchu eu gweledigaeth a’u hegwyddorion. Yn wir, cysondeb rhwng syniadau ac ymddygiadau sy’n ymgorffori uniondeb mewn arweinyddiaeth. Bydd y sesiwn hon yn #EUA2024AnnualConf yn cynnig safbwyntiau newydd ar yr heriau a wynebir gan arweinwyr prifysgolion wrth iddyn nhw lywio drwy benderfyniadau cymhleth ac archwilio sut mae’r heriau hyn yn perthyn i werthoedd – sydd efallai’n cystadlu neu’n gwrthdaro.
Bydd y ffocws ar gysylltu gweledigaeth sefydliadol, arddulliau arweinyddiaeth a diwylliannau personol, a fframweithiau gwneud penderfyniadau, gan roi mewnwelediadau i’r dasg gymhleth o arwain ag uniondeb yn nhirlun cymhleth prifysgolion heddiw.
I gymryd rhan yn hon ac mewn sesiynau diddorol eraill, cofrestrwch am Gynhadledd Flynyddol 2024 yr EUA a gynhelir ar 11 a 12 Ebrill yn y Brifysgol: Cynhadledd Flynyddol 2024 yr EUA.
Edrychwn ymlaen at estyn croeso Cymreig cynnes i’n cydweithwyr yn yr EUA a chydweithio â nhw i gynnal digwyddiad llwyddiannus a diddorol arall yn y Brifysgol.
