Mae’r Prif Gogydd ym Mhrifysgol Abertawe, Carl Newcombe-Ling, wedi cael ei gydnabod fel Meistr ar ei Grefft gan Urdd y Cogyddion – sef un o’r anrhydeddau uchaf a ddyfernir i gogyddion proffesiynol profiadol yn y DU.
Rydyn ni’n hynod falch o Carl, sy’n arwain tîm arlwyo Chartwells ym Mhrifysgol Abertawe, am ennill y teitl nodedig hwn. Mae’r anrhydedd hwn yn adlewyrchu ei fedrusrwydd, ei ymroddiad a’i ymrwymiad eithriadol i’r proffesiwn coginio. Carl yw’r artist sydd y tu ôl i’r bwydlenni blasus sy’n cael eu mwynhau ledled y Brifysgol, ynghyd â’r bwffes trawiadol, y gwleddoedd a’r ciniawau mawreddog a grëir ar gyfer ein digwyddiadau lletygarwch a’n cynadleddau. Mae ei frwdfrydedd, ei greadigrwydd a’i safonau uchel yn chwarae rôl sylweddol yn y profiadau ciniawa rhagorol gallwn ni eu cynnig i’n gwesteion.
“Mae cael fy nghydnabod fel Meistr ar fy Nghrefft gan Urdd y Cogyddion yn garreg filltir broffesiynol go iawn, yn enwedig gan fod y teitl hwn yn cael ei adolygu gan gogyddion uchel eu parch a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Mae cael fy nghydnabod gan bobl sy’n deall y safonau, y ddisgyblaeth a’r ymrwymiad y mae’r grefft yn gofyn amdanynt yn golygu llawer i fi. Dyma rywbeth rwy’n falch iawn ohono ond mae hwn hefyd yn fy atgoffa i barhau i ddysgu, cefnogi pobl eraill a chynrychioli’r proffesiwn yn briodol yma Ym Mhrifysgol Abertawe. ” – Carl Newcombe-Ling
Mae cyflawniad Carl yn adlewyrchu safonau uchel yr arlwyaeth a’r lletygarwch sydd ar gael ar draws ein lleoliadau. P’un a ydych chi’n cynllunio cinio mawreddog, gwledd neu ginio i’r tîm, mae ein tîm yn gweithio’n agos gyda phob cleient i greu bwydlen sy’n creu argraff a fydd yn para.
