Cartref / Lleoliadau / Campws y Bae /
Y Ffowndri Gyfrifiadol
Nifer y seddau: Hyd at 224
Mae’r Ffowndri Gyfrifiadol yn gyfleuster o’r radd flaenaf y buddsoddwyd £32.5 miliwn ynddo, ac sy’n ymroddedig i ymchwil, arloesedd a chydweithio ym meysydd cyfrifiadureg, mathemateg a thechnoleg ddigidol.
Mae pensaernïaeth a chynllun yr adeilad yn rhoi blaenoriaeth i fannau agored, cydweithredol gydag atriwm ar gyfer arlwyo neu gynnal arddangosiadau.
Argymhellir ar gyfer:
Cynadleddau
Cyfarfodydd
Gweithdai
Arddangosfeydd
Darlithoedd
Y lleoliad perffaith yn Abertawe ar gyfer cynadleddau, cyfarfodydd, gweithdai, arddangosiadau a darlithoedd.
Ystafelloedd Penodol
Mae gan y Ffowndri Gyfrifiadol amrywiaeth o leoedd ar gael i’w llogi, rydym wedi dewis ein 3 gorau i chi edrych arnynt.
Methu dod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano? Cysylltwch â ni a gall y tîm anfon dyfynbris personol atoch ar gyfer eich digwyddiad.
002 Darlithfa
Seddi Sefydlog Mewn Rhesi
Cynhwysedd: Hyd at 224
Mae’r ddarlithfa fodern hon gyda seddau cyfforddus yn cynnwys amryw o daflunwyr, seinyddion a phodiwm gyda rheolaeth glywedol. Mae’r dyluniad glân a golau a’r gwelededd rhagorol yn creu amgylchedd croesawgar ar gyfer digwyddiadau academaidd a phroffesiynol
Y Theatr

003 Darlithfa
Seddi Sefydlog Mewn Rhesi
Cynhwysedd: Hyd at 126
Mae’r ddarlithfa glud hon yn amgylchedd tawel oherwydd ei haddurn a’i lliwiau diffwdan, sy’n cynnwys taflunwyr deuol a seddi mewn rhesi sy’n gwella gwelededd ar gyfer holl aelodau’r gynulleidfa. Mae’r amgylchedd uwch dechnoleg hwn yn berffaith ar gyfer darlithoedd, gweithdai a digwyddiadau academaidd.
Y Theatr

104 Labordy Cyfrifiaduron
Ystafell ddosbarth sefydlog
Cynhwysedd: Hyd at 120
Mae’r labordy cyfrifiaduron gyda seddi sefydlog yn lle gwych ar gyfer digwyddiadau rhyngweithiol ymarferol a allai ofyn am fynediad unigol neu mewn grwpiau bach at gyfrifiaduron. Mae’r ystafell hon yn ddelfrydol ar gyfer sesiynau ymneilltuo, gweithdai hyfforddi ac ardystiadau technegol.
Ystafell ddosbarth

Cyfleusterau'r Lleoliad
Mae gan y Ffowndri Gyfrifiadol y nodweddion canlynol:
WiFi
Maes parcio
Ystafelloedd hygyrch
Offer clyweledol
Arlwyo ar y campws
Labory Cyfrifiaduron
Oes gennych chi ddiddordeb yn y gofod hwn?
Am archebion a gwybodaeth am ein hamrywiaeth o wasanaethau cymorth, cysylltwch â thîm Digwyddiadau Abertawe.