Cartref / Lleoliadau / Campws y Bae /
Adeilad Canolog Peirianneg
Nifer y seddau: Hyd at 280
Mae Adeilad Canolog Peirianneg yn gyfleuster dyfodolaidd sy’n cefnogi dysgu, ymchwil a digwyddiadau arloesol.
Mae’r adeilad hwn ar Gampws y Bae yn rhan o’r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg ac mae’n amlwg am ei bensaernïaeth fodern, ei gyfarpar uwch dechnoleg, ei ddyluniad eang a’i ‘stryd peirianneg’ unigryw sy’n berffaith ar gyfer arddangosiadau.
Argymhellir ar gyfer:
Cynadleddau
Cyfarfodydd
Gweithdai
Arddangosfeydd
Darlithoedd
Y lleoliad perffaith yn Abertawe ar gyfer cynadleddau, cyfarfodydd, gweithdai, arddangosiadau a darlithoedd.
Ystafelloedd Penodol
Mae gan Adeilad Canolog Peirianneg lu o fannau gwahanol ar gael gan gynnwys gofod llawr gwastad golau ac rydym wedi dewis ein 3 hoff ofod i’w harddangos.
Yn chwilio am rywbeth gwahanol? Cysylltwch â ni a gall y tîm anfon dyfynbris personol atoch ar gyfer eich digwyddiad.
B001
Gofod Llawr Gwastad Hyblyg
Cynhwysedd: Hyd at 152
Bydd y man llawr gwastad hyfryd hwn yn Adeilad Canolog Peirianneg yn siŵr o ddal sylw eich gwesteion. Mae’r ffenestri o’r llawr i’r nenfwd yn cynnig digon o olau naturiol gan greu awyrgylch agored ac awyrol a cheir golygfa hyfryd o Gampws y Bae.
Cabaret
Arddangosiad
Ystafell ddosbarth
Y Theatr

B003 Darlithfa
Seddi Sefydlog Mewn Rhesi
Cynhwysedd: Hyd at 180
Mae’r ardal hon gyda seddau mewn rhesi’n addas ar gyfer darlithoedd academaidd, seminarau technegol a chyfarfodydd ar gyfer grwpiau mawr. Mae ei dyluniad yn mwyafu gwelededd, cysur a mynediad technolegol, gan greu lleoliad delfrydol ar gyfer cynnal profiadau ysgogol a rhyngweithiol.
Y Theatr

B004
Seddi Sefydlog Mewn Rhesi
Cynhwysedd: Hyd at 280
Mae’r ddarlithfa gyda seddau mewn rhesi hon gyda digon o le ynddi’n berffaith ar gyfer digwyddiadau academaidd a phroffesiynol sy’n galw am ymgysylltu â chynnwys amlgyfrwng.
Y Theatr

Cyfleusterau'r Lleoliad
Mae gan Adeilad Canolog Peirianneg y nodweddion canlynol:
WiFi
Maes parcio
Ystafelloedd hygyrch
Offer clyweledol
Arlwyo ar y campws
Oes gennych chi ddiddordeb yn y gofod hwn?
Am archebion a gwybodaeth am ein hamrywiaeth o wasanaethau cymorth, cysylltwch â thîm Digwyddiadau Abertawe.


