Cartref / Lleoliadau /
Campws y Bae
Cyfleusterau cynhwysfawr ac amwynderau unigryw ar y safle – i gyd mewn lleoliad llawn ysbrydoliaeth a hwylus dim ond munudau o’r M4.
Dewisiadau arlwyo
ar y safle
Gweithgareddau
a Lles
Arferion
Cynaliadwyedd
Mae Prifysgol Abertawe’n ymrwymedig i gynaliadwyedd a lleihau ei hôl troed amgylcheddol ar draws ein holl gampysau, gan gynnwys Campws y Bae. Rydym yn hyrwyddo arferion ecogyfeillgar trwy adeiladau ynni effeithlon, mentrau lleihau gwastraff, a rheoli digwyddiadau’n gynaliadwy, gan ennill Gwobr Arian Twristiaeth Werdd o fri. Yn ogystal, mae ein digwyddiadau glanhau’r traeth misol yn arddangos ein hymrwymiad i gynnal yr amgylchedd lleol a’r ecosystem arfordirol, gan feithrin ymdeimlad o gymuned a stiwardiaeth amgylcheddol ymysg myfyrwyr a staff.

Edrychwch yn agosach ar Gampws y Bae yn Abertawe
Lleoliadau Campws y Bae
Edrychwch ar rai o’n lleoliadau mwyaf poblogaidd ar Gampws Y Bae, sydd oll ar gael i’w harchebu y tu allan i amseroedd addysgu arferol.
Y Neuadd Fawr
Gyda llwyfan hyblyg ac acwsteg o safon ryngwladol; mae’n lle perffaith i gynnal perfformiadau neu gynadleddau a digwyddiadau mawr. Nifer y seddau: Hyd at 700.
Yr Ysgol Reolaeth
Lleoliad modern, golau a mawr iawn sy’n ddelfrydol ar gyfer digwyddiadau busnes, rhwydweithio ac entrepreneuriaeth. Nifer y seddau: Hyd at 150.
Y Twyni
Adeilad modern â dau lawr gyda lleoedd llawr gwastad amlbwrpas mewn lleoliad arfordirol unigryw. Nifer y seddau: Hyd at 350.
Y Ffowndri Gyfrifiadol
Hyb y buddsoddwyd £32.5 miliwn ynddo ar gyfer ymchwil ddigidol, arloesedd, a chydweithio, gan gynnwys lleoedd agored ac atriwm sy’n barod ar gyfer arddangosiadau. Nifer y seddau: Hyd at 224.
Adeilad Canolog Peirianneg
Cyfleuster Gwyddoniaeth a Pheirianneg o’r radd flaenaf gyda phensaernïaeth fodern, cyfarpar technoleg uwch, a ‘stryd beirianneg’ ar gyfer arddangosiadau. Nifer y seddau: Hyd at 280.












