Tŷ Fulton
Nifer y seddau: Hyd at 339
Tŷ Fulton yw calon Campws Singleton; yr adeilad rhestredig eiconig o’r 1960au yw lle mae popeth yn dod ynghyd.
Argymhellir ar gyfer:
Cynadleddau
Ciniawau
Cyfarfodydd
Gweithdai
Cyngherddau
Arddangosfeydd
Y lleoliad perffaith yn Abertawe ar gyfer cynadleddau, ciniawau, cyfarfodydd, gweithdai, cyngherddau ac arddangosiadau.
Ystafelloedd Penodol
Mae gan Dŷ Fulton amrywiaeth o leoedd ar gael i’w llogi, rydym wedi dewis ein 3 gorau i chi edrych arnynt.
Methu dod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano? Cysylltwch â ni a gall y tîm anfon dyfynbris personol atoch ar gyfer eich digwyddiad.
Harbwr Fulton
Gofod Llawr Gwastad Hyblyg
Cynhwysedd: Hyd at 339
Harbwr Fulton yw ein man cymdeithasol amlswyddogaethol, ar gyfer cynnal gweithgareddau a bwyta hefyd. Mae’r gofod yn cynnig ystod o opsiynau eistedd, gosodiadau digidol, ac ardal teras awyr agored unigryw sy’n edrych dros y tiroedd.
Cabaret
Ystafell ddosbarth
Y Theatr
Arddangosiad

Fulton A
Gofod Llawr Gwastad Hyblyg
Cynhwysedd: Hyd at 150
Mae’r gofod hwn sydd â llawr gwastad yn cynnwys paneli pren traddodiadol sy’n nodweddiadol o Dŷ Fulton yn ogystal â ffenestri mawr sy’n edrych dros Fae hardd Abertawe. Gellir newid y gofod amlswyddogaethol hwn i gyd-fynd ag anghenion eich digwyddiad, gyda’r gallu i ddefnyddio’r gofod drws nesaf ar gyfer cyfarfodydd llai ac arlwyo.
Cabaret
Ystafell ddosbarth
Y Theatr
Arddangosiad

Fulton B
Gofod Llawr Gwastad Hyblyg
Cynhwysedd: Hyd at 150
Mae Fulton B yn un arall o’n darlithfeydd sy’n edrych dros Fae Abertawe ac mae ganddi arddull draddodiadol o’r 1960au. Ar hyn o bryd mae’r gofod golau, amlswyddogaethol hwn wedi’i osod â byrddau plectrwm, gan ei wneud yn ofod gwych ar gyfer dysgu a chynnal trafodaethau agored; fodd bynnag, mae’r llawr gwastad yn golygu y gellir ei sefydlu unrhyw ffordd yr hoffech chi.
Cabaret
Ystafell ddosbarth
Y Theatr
Arddangosiad

Cyfleusterau'r Lleoliad
Mae Tŷ Fulton yn elwa o’r nodweddion canlynol:
WiFi
Maes Parcio
Ystafelloedd Hygyrch
Offer Clyweledol
Arlwyo ar y Campws
Ardal Bar Dros-dro
(sydd ar gael ar gais)
Oes gennych chi ddiddordeb
yn y gofod hwn?
Am archebion a gwybodaeth am ein hamrywiaeth o wasanaethau cymorth, cysylltwch â thîm Digwyddiadau Abertawe.



