Parc Chwaraeon Bae Abertawe
Nifer y seddau: Hyd at 1,180
Parc Chwaraeon Bae Abertawe yw ein cyfleuster chwaraeon o’r radd flaenaf, sy’n cynnig mynediad i fyfyrwyr, staff a’r cyhoedd at ystod o offer ac adnoddau chwaraeon.
Y lleoliad perffaith yn Abertawe ar gyfer digwyddiadau chwaraeon, cystadlaethau a gweithgareddau meithrin tîm.
Ystafelloedd Penodol
Mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn lleoliad amlbwrpas i gynnal digwyddiadau oherwydd ei ystod eang o gyfleusterau chwaraeon. O gynnal twrnamaint yn y neuadd chwaraeon, i gala nofio gyda llety dros nos, gallwn ni helpu i ddod o hyd i’r cyfleuster iawn i chi.
Am ragor o wybodaeth neu ddyfynbris personol, cysylltwch â ni.
Neuadd Chwaraeon
Parc Chwaraeon Bae Abertawe
Cynhwysedd: Hyd at 400
Defnyddir y Neuadd Chwaraeon ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau, o arddangosiadau gan gynnwys Ffair y Glas Prifysgol Abertawe bob blwyddyn i dwrnameintiau chwaraeon. Gellir trawsnewid y gofod amlbwrpas hwn i ddiwallu anghenion eich digwyddiad.

Trac Athletau Awyr Agored
Cynhwysedd: Hyd at 475 o wylwyr
Gall y trac athletau gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, o gystadleuaeth athletau broffesiynol i ddiwrnod chwaraeon i adeiladu tîm.

Pwll Cenedlaethol Cymru
Cynhwysedd: Hyd at 1,150 o wylwyr
Pwll Cenedlaethol Cymru yw ein pwll maint Olympaidd 50m o hyd, sy’n gartref i amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau nofio ac mae’n cynnwys seddau mewn haenau i wylwyr ar gyfer hyd at 1,150 o bobl.

Ystafell Amlbwrpas
Cynhwysedd: Hyd at 100
Mae’r ystafell amlbwrpas yn lle gwych ar gyfer cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, p’un a ydych chi’n chwilio am le ar gyfer eich digwyddiad adeiladu tîm nesaf, neu eisiau cynnal gweithdy.
Cyfleusterau'r Lleoliad
Mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn elwa o’r nodweddion canlynol:
WiFi
Maes Parcio
Ystafelloedd Hygyrch
Arlwyo ar y Campws
Gorsafoedd Dŵr
Oes gennych chi ddiddordeb
yn y gofod hwn?
Am archebion a gwybodaeth am ein hamrywiaeth o wasanaethau cymorth, cysylltwch â thîm Digwyddiadau Abertawe.








