Cartref / Gwybodaeth i Westeion / Cyfeiriadau

Cael Cyfeiriadau

Bay Campus

Swansea University Bay Campus,
Fabian Way,
Crymlyn Burrows,
Skewen, Swansea
SA1 8EN Get Directions

Singleton Campus

Swansea University Singleton Campus,
Swansea University,
Singleton Park,
Sketty, Swansea
SA2 8PP Get Directions

P’un a ydych chi’n ymweld ar gyfer digwyddiad, yn mynychu cyfarfod, neu’n ymuno â ni fel siaradwr, mae dod o hyd i’r ffordd i ddau gampws Prifysgol Abertawe yn hawdd.

Mae ein Campws Singleton yng nghanol parcdir hardd ger Bae Abertawe, tra bod ein Campws y Bae ar lan y môr, dim ond pellter byr o ganol y ddinas.

Isod, gweler cyfarwyddiadau manwl ar gyfer sut i gyrraedd y ddau gampws mewn car, ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac wrth gerdded, gan sicrhau taith esmwyth waeth sut y byddwch chi’n teithio.

Cyrraedd
Campws y Bae

Gwasanaethau Digwyddiadau Prifysgol Abertawe, Campws y Bae, Ffordd Fabian, Burrows Crymlyn, Abertawe, SA1 8EN Cyfeiriadau llawn yma

Map o Gampws y Bae

Swansea University Bay Campus Aerial

Ar y Trên:

Gorsaf Drenau Abertawe

Amserau Teithio: 1 awr o Orsaf Caerdydd, 3 awr o Orsaf Paddington, Llundain, 3 awr o Orsaf New Street, Birmingham.

Cynnig Arbennig: Mae cyfraddau cynhadledd ar gael gyda GWR. Archebwch gyda GWR yma.

O Orsaf Abertawe i Gampws y Bae

Bws (Rhif 91): £2.00 am docyn sengl (tapio i mewn ac allan) Am y newyddion diweddaraf, ewch i wefan First Bus.

Tacsi: ~£10-15

Mewn Car:

Drwy gyffordd 42 ar yr M4

Côd post: SA1 8EN

Oes angen i chi barcio?

Cynadleddwyr undydd: Mae nifer cyfyngedig o leoedd parcio yn y maes parcio i ymwelwyr ar Gampws y Bae, ac mae’n rhaid archebu lle parcio o flaen llaw a darparu manylion rhif cofrestru eich car o leiaf 48 awr o flaen llaw. Sylwer bod angen Talu ac Arddangos yn y maes parcio i ymwelwyr ar Gampws y Bae, ac mae system Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig yn cael ei defnyddio. Bydd unrhyw gerbydau nad ydynt wedi cofrestru gyda desg y dderbynfa yn derbyn hysbysiad cosb yn awtomatig.

Cynadleddwyr preswyl: Mae parcio ar gael ar y safle ar gyfer cynadleddwyr sy’n aros mewn llety ar y campws. Fodd bynnag, sylwer bod hyn ond yn berthnasol os byddwch chi’n cyrraedd ar ôl 7pm ac mae’n amodol ar argaeledd. Rhaid i gynadleddwyr barcio yn y prif faes parcio (gweler y map) drwy gydol eu harhosiad a defnyddio cefn y maes parcio gan fod y chwe rhes gyntaf wedi eu cadw ar gyfer staff Prifysgol Abertawe. Hoffem eich atgoffa y caiff y maes parcio ei fonitro gan systemau Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig, ac o ganlyniad bydd unrhyw gerbydau nad ydynt wedi cofrestru gyda desg y dderbynfa yn derbyn hysbysiad cosb yn awtomatig.

Sylwer y bydd angen rhoi rhif cofrestru eich car i drefnwyr y digwyddiad o flaen llaw.

Mewn Awyren:

Maes Awyr Caerdydd
(yn uniongyrchol neu drwy Amsterdam Schiphol)

O Faes Awyr Caerdydd i Abertawe
Trên i Orsaf Drenau Abertawe (gweler yr adran drenau uchod)

Mae coetsis FlixBus neu National Express ar gael yn uniongyrchol i Gampws y Bae.

Mynd i
Gampws Parc Singleton

Gwasanaethau Digwyddiadau Prifysgol Abertawe, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe, SA2 8PP Cyfeiriadau llawn yma

Map o Gampws Parc Singleton

Swansea University Singleton Campus Aerial

Ar y Trên:

Gorsaf Drenau Abertawe

Amserau teithio: 1 awr o Orsaf Caerdydd, 3 awr o Orsaf Paddington, Llundain, 3 awr o Orsaf New Street, Birmingham

Cynnig Arbennig: Mae cyfraddau cynhadledd ar gael gyda GWR. Archebwch gyda GWR yma.

Trefniadau amgen: Trainline.

O Orsaf Abertawe i Gampws Singleton

Bws (Rhif 4): £2.00 am docyn sengl (tapio i mewn ac allan) Am y newyddion diweddaraf, ewch i wefan First Bus.

Tacsi: ~£10-15

Mewn Car:

Drwy Gyffordd 42 neu 44 yr M4

Côd post: SA2 8PP

Oes angen i chi barcio?

Cynadleddwyr dydd: Mae lleoedd parcio ar gael rhwng 9am a 5pm ar y maes hamdden neu ger Pub on the Pond. Gweler yma gostau parcio.

Cyfranogwyr digwyddiadau gyda’r hwyr a thros y penwythnos: Gall cynrychiolwyr barcio ar y campws am ddim, yn amodol ar argaeledd. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.

Mewn Awyren:

Maes Awyr Caerdydd
(yn uniongyrchol neu drwy Amsterdam Schiphol)

O Faes Awyr Caerdydd i Abertawe
Trên i Orsaf Drenau Abertawe (gweler yr adran drenau uchod)

Mae coetsis FlixBus neu National Express ar gael yn uniongyrchol i Orsaf Fysiau Abertawe.

Brasamcanion yw amserau teithio’r trenau. Amcangyfrifir prisiau’r tacsis. I archebu ar gyfradd gynhadledd, defnyddiwch y dolenni a ddarperir bob amser i gael gostyngiadau.