Cartref / Gwybodaeth i Drefnwyr Digwyddiadau / Pecynnau Cynadleddwyr

Pecynnau

Cynadleddwyr

Delegate Packages

Yn nhîm Digwyddiadau Prifysgol Abertawe, credwn fod pob digwyddiad yn unigryw.

Gydag amrywiaeth o becynnau hyblyg i gynadleddwyr a thîm ymroddedig a chyfeillgar, rydym yma i sicrhau bod profiad eich digwyddiad yn hwylus o’r dechrau i’r diwedd. P’un a ydych yn cynnal gweithdy bach, seminar corfforaethol neu gynhadledd fawr, mae ein pecynnau wedi’u cynllunio i ddiwallu eich anghenion a hynny yng nghanol Abertawe.

Pecyn Cynadleddwr Dydd

Yn berffaith ar gyfer cynadleddau, cyfarfodydd a gweithdai, mae ein Pecyn Cynadleddwr Dydd yn cynnwys yr holl hanfodion ar gyfer diwrnod llawn ymgysylltu a chydweithredu. Beth sydd wedi’i gynnwys:
Ystafelloedd cyfarfod modern â digon o le
Cyfarpar clyweledol a chymorth technegol ar y safle
Lluniaeth wrth gyrraedd, egwyliau canol bore a phrynhawn
Dewis o fwydlenni cinio â chynhwysion lleol wedi’u teilwra i’ch anghenion
Wi-fi am ddim
Cydlynydd penodol i’ch digwyddiad chi ar gyfer cynllunio a chymorth hwylus

Pecyn Cynadleddwr Preswyl

Yn ddelfrydol ar gyfer digwyddiadau sy’n para sawl diwrnod, mae’r pecyn hwn yn cynnig amwynderau yn ystod y dydd a llety cyfforddus ar gyfer profiad didrafferth. Beth sydd wedi’i gynnwys:
Amwynderau Pecyn Cynadleddwr Dydd llawn, a hefyd:
Llety ar y campws gyda brecwast

Pryd o fwyd gyda’r nos gan gynnwys bwydlenni wedi’u hysbrydoli gan Gymru

Mynediad i gyfleusterau Prifysgol Abertawe (efallai codir ffïoedd ychwanegol)

Cefnogaeth a chymorth ar ôl oriau gwaith

Diogelwch ddydd a nos

Pecynnau Pwrpasol

Os oes gennych rywbeth ychydig yn wahanol mewn golwg, byddwn ni wrth ein boddau’n gwireddu eich gweledigaeth. Gall ein tîm greu pecyn sy’n diwallu eich anghenion i’r dim. Rhannwch eich gweledigaeth, a byddwn ni’n gofalu am y manylion.
Event Spaces in Swansea

Pam Dewis

Digwyddiadau Prifysgol Abertawe?

Mae tîm Digwyddiadau Prifysgol Abertawe’n gwneud mwy na chynnal digwyddiadau; rydym yn creu atgofion am oes. Fel tîm sydd wedi’i ysbrydoli gan gynhesrwydd a chroeso Cymru, rydym yn deall bod cynllunio digwyddiad yn fwy na logisteg – mae am ddarparu profiad.

Rydym yn falch o’n treftadaeth a’n cysylltiad â diwylliant lleol, ac mae’r balchder hwn yn rhan o bob digwyddiad rydym yn ei gynnal. Os yw’ch gwesteion yn lleol neu’n teithio o bell, gyda’n lleoliadau, ein tîm o arbenigwyr a’n hymrwymiad i ragoriaeth, byddan nhw’n cael croeso cynnes, gan deimlo’n gyfforddus ac yn barod i gyfrannu o’r funud maent yn cyrraedd. Gadewch i ni eich helpu i greu digwyddiad y bydd pawb yn ei gofio.
Swansea University Events Brand Shapes - Triangle, Quarter Circle, Diamond, Rounded, Star