Ffilmio ym
Mhrifysgol Abertawe

Mae Prifysgol Abertawe’n cynnig lleoliad ffilmio unigryw, amlbwrpas, lle mae cefndiroedd arfordirol dramatig yn cwrdd â phensaernïaeth fodern trawiadol ac adeiladau hanesyddol llawn cymeriad.

P’un a ydych chi’n ffilmio hysbysebion, drama, rhaglenni dogfen neu ffotograffiaeth, mae ein campysau’n cynnig ystod o leoliadau ysbrydoledig ar gyfer yr holl anghenion creadigol.

Pam dewis Abertawe?

Wedi’i lleoli ar hyd arfordir hardd Bae Abertawe, mae ein Campws y Bae a Champws Singleton yn cynnig ystod o amgylchoedd mewn un lleoliad. Gyda mannau hwylus dan do ac yn yr awyr agored, cyfleusterau o ansawdd uchel a thîm cymorth profiadol wrth law, byddwch yn dod o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch i wireddu eich gweledigaeth.

 

  • Tirweddau unigryw ac amlbwrpas
  • Lleoliad Hygyrch
  • Mynediad preifat i’r traeth
  • Cymorth ymarferol ar y safle
  • Addas ar gyfer defnyddio dronau
  • Cyfleusterau ar y campws – arlwyo, parcio, diogelwch
Stay at Swansea University
a triangle shape with an image of a car carrying a tree, a semi circle with a laboratory and an arch with an image of a filming crew

Fel a welwyd ar y sgrîn

Mae ein campysau wedi bod yn gefndir i ystod eang o gynyrchiadau, gan gynnwys:

  • HAVOC (Netflix)
  • Casualty (BBC)
  • Doctor Who (BBC)
  • Until I Kill You (ITV)
  • Cynyrchiadau annibynnol

Oes gennychddiddordeb?

Angen rhagor o wybodaeth neu eisiau cynnwys llety yn eich pecyn ffilmio? Cysylltwch â ni a gall aelod o’r tîm drefnu dyfynbris personol i chi.

Dolenni Cyflym

Dewiswch o’n dolenni cyflym am ragor o fanylion am ein pecynnau i gynadleddwyr neu am wybodaeth hanfodol megis cyrraedd a pharcio. Rydym yma i wneud yn siŵr bod popeth yn mynd yn hwylus!

Ein Campysau

Ein cyrraedd

Cwestiynau Cyffredin

Cyfleusterau'r campws