3ydd - 5ed Hydref

Categorïau: Bwyta a Dathlu, Uchafbwyntiau'r Brifysgol, Y Cyhoedd a'r Gymuned
Ymunwch â ni am benwythnos bythgofiadwy wrth i ni groesawu cyn-fyfyrwyr yn ôl i Abertawe ar gyfer Aduniad 2025! P’un a wnaethoch chi raddio’n ddiweddar neu ddegawdau yn ôl, dyma’ch cyfle i ailgysylltu â hen ffrindiau, ailddarganfod y campws, a dathlu’ch amser yn Abertawe.
Bydd yn benwythnos llawn atgofion, chwerthin a dathlu – gyda theithiau o’r campws, sgyrsiau, adloniant byw, a’r parti nos Sadwrn sydd bob amser yn boblogaidd.
Dewch i weld beth sydd wedi newid (a’r hyn sydd wedi aros yr un fath!) wrth rannu atgofion a chreu rhai newydd.
Am ragor o wybodaeth ac i gadw lle, ewch i: swansea.ac.uk/alumni/reunion2025