Symposiwm Gweithio Gyda’n Gilydd – Rheoli Plâu Integredig Newydd 2025 (IPM)

8ed - 10ed Medi

Categorïau: Bwyta a Dathlu, Cynadleddau ac Arddangosiadau, Gweithdai a Chyrsiau

Mae Prifysgol Abertawe yn falch o gynnal y Symposiwm Uchel ei barch ar Reoli Plâu Integredig Newydd am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, gan dynnu sylw at ddatblygiadau mewn Rheoli Plâu Integredig (IPM).

Bydd y symposiwm hwn yn dod ag arbenigwyr o ymchwil ryngddisgyblaethol, diwydiant, tyfwyr, llunwyr polisi, cyllidwyr, a rhanddeiliaid buddsoddiad ynghyd i drafod y datblygiadau diweddaraf ym maes IPM. Bydd y pynciau’n cynnwys bioreolaeth, defnyddio cynhyrchion microbaidd a naturiol fel biosymbylyddion a bioblaladdwyr, yn ogystal â defnyddio microbau amlswyddogaethol er mwyn gwella cynhyrchu ac amddiffyn cnydau. Bydd y digwyddiad hefyd yn archwilio iechyd pridd, IPM mewn coedwigaeth, a rôl IPM wrth ddiogelu bioamrywiaeth, yn enwedig peillwyr megis gwenyn.

Wrth ymweld â Phrifysgol Abertawe, bydd cynrychiolwyr yn mwynhau cinio gala yn y neuadd fawr, taith o’r gerddi botanegol, yn ogystal â chael y dewis o aros yn ein llety ar y safle.

Mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn ar gael yma.

Tocynnau i ddigwyddiadau

Pris tocynnau:
O £65

Categorïau:

Bwyta a Dathlu
Cynadleddau ac Arddangosiadau
Gweithdai a Chyrsiau