14ed Mai


Categorïau: Bwyta a Dathlu, Uchafbwyntiau'r Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe wrth ei bodd yn cynnal Seremoni Gwobrau Dylan Thomas 2026 yn y Neuadd Fawr eiconig ar Gampws y Bae. Wedi’i gynnal yn y ddinas a wnaeth ysbrydoli Dylan Thomas ei hun, mae’r digwyddiad llenyddol rhyngwladol mawreddog hwn yn dathlu awduron ifanc eithriadol o bob cwr o’r byd.
Mae Gwobr Dylan Thomas yn un o wobrau llenyddol pwysicaf y byd i awduron o dan 40 oed, gan gydnabod talent ragorol ar draws ffuglen, barddoniaeth, drama a ffurfiau ysgrifenedig eraill. Mae’r seremoni’n dod ag awduron sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, ffigurau llenyddol a gwesteion gwadd ynghyd am noson sy’n ymroddedig i greadigrwydd, adrodd straeon a lleisiau sy’n dod i’r amlwg mewn llenyddiaeth gyfoes.
Mae cynnal y gwobrau yn adlewyrchu cysylltiad hirhoedlog Prifysgol Abertawe â Dylan Thomas a’i hymrwymiad i gefnogi’r celfyddydau, diwylliant a’r diwydiannau creadigol. Cyhoeddir rhagor o fanylion am y seremoni a’r digwyddiadau cysylltiedig yn agosach at y dyddiad.