Seremonïau Graddio’r Gaeaf

8ed - 12fed Rhagfyr

Categorïau: Cyngherddau a Perfformiadau, Uchafbwyntiau'r Brifysgol

Graddio yw un o’r cerrig milltir pwysicaf a mwyaf cofiadwy yn nhaith myfyriwr – mae’n gyfle i ddathlu blynyddoedd o waith caled, cyflawniad a thwf personol.

Cynhelir seremonïau graddio’r gaeaf Prifysgol Abertawe yn y Neuadd Fawr ysblennydd ar Gampws y Bae, gan gynnig cefndir addas ar gyfer yr achlysur arbennig hwn. Gyda theulu, ffrindiau a chyd-raddedigion yn eu plith, gwahoddir myfyrwyr i nodi diwedd eu hastudiaethau a dechrau pennod newydd gyffrous.

Er yn ddigwyddiad ffurfiol, mae pob seremoni yn ddathliad. Ceir cyfleoedd i dynnu lluniau, i gwrdd ag eraill, ac i fyfyrio ar bopeth a gyflawnwyd. Mae ein tîm mor falch o gefnogi’r digwyddiadau gwych yma.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://www.swansea.ac.uk/cy/astudio/graddio/

Tocynnau i ddigwyddiadau

Categorïau:

Cyngherddau a Perfformiadau
Uchafbwyntiau'r Brifysgol