Faniau Gwasanaeth Gwaed Cymru

13fed Hydref - 1af Rhagfyr

Categorïau: Y Cyhoedd a'r Gymuned

Bydd fan symudol i roi gwaed i Wasanaeth Gwaed Cymru yn ymweld â Phrifysgol Abertawe, gan gynnig cyfle i staff, myfyrwyr a’r cyhoedd roi gwaed.

Pam mae’n bwysig:

Gall pob un achos o roi gwaed achub neu wella hyd at dri bywyd.

Mae gwaed yn hanfodol ar gyfer argyfyngau, llawdriniaeth, rhoi genedigaeth, triniaeth canser, a chyflyrau meddygol parhaus.

Mae’n rhaid i Wasanaeth Gwaed Cymru gasglu tua 350 o roddion bob dydd i ddiwallu anghenion ysbytai ledled Cymru.

Gall cyflenwadau o rai grwpiau gwaed redeg yn isel – mae eich rhodd yn helpu i sicrhau cyflenwad diogel a sefydlog i gleifion pan fydd ei angen arnynt fwyaf.

Rhoi gwaed yw un o’r ffyrdd symlaf ond mwyaf pwerus o wneud gwahaniaeth yn eich cymuned.

Bydd y faniau gwaed ar y safle sawl gwaith drwy gydol yr Hydref.

Campws Parc Singleton

  • Dydd Llun 13 Hydref
  • Dydd Mawrth 14 Hydref
  • Dydd Llun 3 Tachwedd
  • Dydd Mawrth 4 Tachwedd
  • Dydd Llun 1 Rhagfyr

Campws y Bae

  • Dydd Iau 23 Hydref
  • Dydd Mawrth 18 Tachwedd

Fel arfer bydd rhodd yn cymryd tua 45 munud o’r dechrau i’r diwedd. Trefnwch amser drwy eu gwefan heddiw.

Tocynnau i ddigwyddiadau

Categorïau:

Y Cyhoedd a'r Gymuned