Cartref / Newyddion / Cefnogi Cynyrchiadau Ffilm a Theledu ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe

Cefnogi Cynyrchiadau Ffilm a Theledu ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe

Ebr 15, 2025

Mae Campws y Bae Prifysgol Abertawe, gyda’i phensaernïaeth fodern, ei lleoliad glan môr helaeth a’i mannau amlddefnydd, bellach yn lleoliad ffilmio deniadol i lawer o gwmnïau cynhyrchu ffilm a theledu.

Mae’r campws yn cynnig cymysgedd unigryw o leoliadau cyfoes a harddwch arfordirol naturiol, gan ddarparu cefndir dynamig ar gyfer amrywiaeth eang o gynyrchiadau. Yn yr astudiaeth achos hon, archwiliwn sut mae ein tîm Gwasanaethau Digwyddiadau wedi llwyddo i weithio mewn partneriaeth â chwmnïau ffilm a theledu, gan roi manylion yr adnoddau a’r cymorth a ddarparwyd i sicrhau cynyrchiadau hwylus a llwyddiannus!

Yn aml bydd ar gynyrchiadau ffilm a theledu angen mynediad at leoliadau trawiadol ac unigryw sy’n gallu cyfoethogi adrodd straeon wrth hefyd gynnig cyfleusterau ymarferol megis cymorth logistaidd, lle i offer a chyfleusterau i’r criw. Rydym yn ffodus iawn ym Mhrifysgol Abertawe fod gennym lu o’r pethau hyn! Rydym yn gwybod o brofiad fod cynhyrchwyr yn chwilio am leoliadau ag apêl esthetig sy’n ddigon hyblyg i ddiwallu amrywiaeth o anghenion ffilmio, o brosiectau bach annibynnol i gynyrchiadau ar raddfa fawr.

Mae gan ein campws hardd ar y Bae y potensial i ddiwallu’r anghenion hyn ond yr her i ni oedd gosod y Brifysgol fel cyrchfan ffilmio hyfyw wrth sicrhau bod y ffilmio yn cael yr effaith leiaf bosib ar weithgareddau academaidd.

O ran helpu sefydliadau i ffilmio yn ein cyfleusterau, ein nod bob amser yw creu profiad hwylus i gwmnïau cynhyrchu, gan eu galluogi i ffilmio ar ein Campws y Bae heb darfu gormod ar fywyd ar y campws. Mae hyn yn cynnwys cynnig amrywiaeth o wasanaethau, o chwilio am leoliadau i gymorth logistaidd, wrth arddangos y campws fel lleoliad amlddefnydd a deniadol ar gyfer mathau amrywiol o gynyrchiadau.

Lleoliadau Hyblyg a Chefndiroedd Unigryw

Mae Campws y Bae’n cynnig llu o gefndiroedd trawiadol ar gyfer gwahanol fathau o olygfeydd. Gyda’i adeiladau modern, ei mannau agored eang a thraeth ar ei stepen drws, gall y campws weithredu fel lleoliad trefol cyfoes neu dirwedd arfordirol, sydd felly’n cynnig hyblygrwydd sylweddol i wneuthurwyr ffilmiau.

Mae’r bensaernïaeth fodern, gan gynnwys darlithfeydd dyfodolaidd, sgwariau agored a labordai o’r radd flaenaf, yn cynnig lleoliadau delfrydol ar gyfer ffilmio golygfeydd sy’n gofyn am amgylchoedd dan do ac awyr agored. Eleni roeddem wrth ein boddau’n croesawu criw ffilmio Doctor Who yn ôl i’r campws. Roedd angen defnyddio llu o leoliadau a chyfleusterau ar y campws i gynnal y gwaith ffilmio a bu’r holl broses yn llwyddiant ysgubol. Roedd hi’n wych gallu gwylio’r sioe yn fyw!

Rhaid i ni gyfeirio at agosrwydd y campws at y môr hefyd, sydd bob amser yn ychwanegu elfen o harddwch naturiol. Gwnaeth hyn gyfoethogi llawer o olygfeydd drwy gynnig cymysgedd o estheteg drefol ac arfordirol oll mewn un lleoliad. Mae hyn hefyd yn wir am Gampws Singleton. Er nad oes gan Gampws Singleton ei draeth preifat ei hun fel y Bae, mae’r traeth yn dafliad carreg i ffwrdd yn unig!

Gwasanaeth Cysylltiadau Ffilmio Pwrpasol

Mae ein tîm wedi sefydlu gwasanaeth cysylltiadau ffilmio pwrpasol ar gyfer cwmnïau ffilm a theledu. Mae’r gwasanaeth hwn yn gweithredu fel prif bwynt cyswllt, gan helpu cwmnïau gyda phopeth o ymholiadau cychwynnol i’r diwrnod ffilmio olaf. Mae’r tîm cysylltiadau ffilmio’n hwyluso chwilio am leoliadau, yn llywio ceisiadau am ganiatâd ac yn sicrhau bod gan griwiau cynhyrchu fynediad at y cyfleusterau angenrheidiol ar y campws.

Mae’r gwasanaeth cysylltiadau ffilmio yn elfen hanfodol o’n tîm er mwyn cydlynu rhwng timau cynhyrchu, rhanddeiliad cyffredinol ac wrth gwrs amserlen academaidd y Brifysgol, gan sicrhau y gellir cynnal ffilmio heb darfu ar ddosbarthiadau, ymchwil a gweithgareddau myfyrwyr, etc.

Cymorth Logistaidd Cynhwysfawr

Ar gyfer timau cynhyrchu, mae logisteg ymarferol yn hollbwysig. Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn darparu cymorth helaeth yn y maes hwn, gan gynnig mynediad at barcio ar gyfer cerbydau cynhyrchu, mannau dynodedig i drelars a swyddfeydd dros dro i aelodau’r criw. Gyda’i fannau agored mawr, mae digon o le ar y campws ar gyfer offer, cerbydau a strwythurau dros dro heb amharu ar weithrediadau’r Brifysgol.

At hynny, mae staff technegol y Brifysgol yn helpu gyda chyflenwadau pŵer, mynediad at y rhyngrwyd a chyfleustodau eraill y mae eu hangen at ddibenion ffilmio. Mae’r holl elfennau logistaidd hyn ar y campws yn caniatáu i dimau cynhyrchu ganolbwyntio ar agweddau creadigol ar eu prosiectau heb orfod poeni am y materion ymarferol sy’n gysylltiedig â ffilmio mewn man cyhoeddus mawr.

Trefniadau Ffilmio Hyblyg

O ystyried natur anrhagweladwy amserlenni ffilmio, mae Prifysgol Abertawe’n cynnig trefniadau ffilmio hyblyg sy’n caniatáu i gynyrchiadau gael eu ffilmio y tu allan i oriau brig, ar benwythnosau neu yn ystod gwyliau rhwng tymhorau. Mae’r hyblygrwydd hwn yn allweddol wrth wneud y campws yn hygyrch i amrywiaeth o gwmnïau cynhyrchu, o wneuthurwyr ffilmiau annibynnol i gynyrchiadau ar raddfa fawr.

Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o gwmnïau cynhyrchu i deilwra amserlenni ffilmio sy’n diwallu eu hanghenion wrth sicrhau nad ydynt yn tarfu ar weithgareddau ar y campws.

Ymgysylltu â’r Gymuned a Chysylltiadau Cyhoeddus

Mae cynnal cynyrchiadau ffilm a theledu ar y campws hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer cysylltiadau cyhoeddus cadarnhaol ac ymgysylltu â’r gymuned. Rydym yn rhoi gwybod i randdeiliaid o flaen llaw am ddyddiadau ac amseroedd ffilmio, a chaiff llawer ohonynt y cyfle i ddod i wylio wrth i gynyrchiadau gael eu ffilmio.

At hynny, fel Prifysgol rydym yn ceisio manteisio ar ein rôl fel lleoliad ffilmio i hyrwyddo cyfleoedd ffilmio ar y campws, gan arddangos ein hymgysylltiad â’r celfyddydau a’r diwydiannau creadigol wrth amlygu potensial Prifysgol Abertawe ar gyfer cynyrchiadau yn y dyfodol.

Prosiectau Ffilmio Llwyddiannus

Mae sawl prosiect ffilm a theledu nodedig wedi’i ffilmio’n llwyddiannus ar Gampws y Bae, gan achub ar y lleoliad arfordirol unigryw a’r cyfleusterau modern. Mae’r cynyrchiadau wedi amrywio o raglenni dogfen a dramâu teledu i ffilmiau annibynnol, sydd oll wedi elwa o’n hymagwedd hyblyg a chefnogol.

Yn ogystal â gwella enw da Prifysgol Abertawe fel cyrchfan ffilmio, mae’r prosiectau llwyddiannus hyn hefyd wedi’n helpu i arddangos y campws mewn ffordd newydd i gynulleidfa fyd-eang!

Tarfu cyn lleied â phosib ar Fywyd ar y Campws

Er gwaethaf hyd a lled rhai cynyrchiadau, gall y Brifysgol barhau â’i hamserlen academaidd gan darfu cyn lleied â phosib ar weithrediadau. Drwy weithio’n agos gyda chwmnïau cynhyrchu i gydlynu amseroedd a lleoliadau ffilmio, mae’r Brifysgol yn sicrhau nad yw gwaith ffilmio’n effeithio ar weithrediadau o ddydd i ddydd megis dosbarthiadau, ymchwil a gweithgareddau myfyrwyr.

Mwy o Ddiddordeb gan Gynyrchiadau Ffilm a Theledu

O ganlyniad i brofiadau cadarnhaol ar brosiectau blaenorol, mae Campws y Bae wedi parhau i ddenu diddordeb gan gwmnïau cynhyrchu. Mae enw da’r Brifysgol ar gyfer darparu amgylchedd proffesiynol, hyblyg a chefnogol ar gyfer ffilmio wedi arwain at gynnydd mewn ymholiadau gan wneuthurwyr ffilmiau sy’n chwilio am leoliadau unigryw a hygyrch.

Mae Campws y Bae Prifysgol Abertawe wedi profi ei fod yn lleoliad rhagorol ar gyfer cynyrchiadau ffilm a theledu, gan gynnig cyfuniad o isadeiledd modern a golygfeydd arfordirol ysblennydd. Drwy gynnig cymorth pwrpasol drwy’r gwasanaeth cysylltiadau ffilmio, darparu hyblygrwydd logistaidd a chynnal cydbwysedd rhwng anghenion cynhyrchu a gweithrediadau’r Brifysgol, mae’r campws wedi llwyddo i’w sefydlu ei hun fel cyrchfan a ddewisir gan wneuthurwyr ffilmiau.

Yng ngoleuni’r astudiaeth achos hon, mae’n glir bod Prifysgol Abertawe’n ymrwymedig i feithrin partneriaethau â’r diwydiant ffilm a theledu, gan helpu i wireddu gweledigaethau creadigol wrth arddangos harddwch ac amlochredd ei champws i gynulleidfa fyd-eang.
Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad â’r safle!